Dewisiadau Gofal Plant - Help i dalu am eich gofal plant

Help y llywodraeth gyda chost gofal plant i rieni. P’un a oes gennych fabanod neu blant yn eu harddegau, gallech gael cymorth.

Y CYNNIG GOFAL PLANT AR GYFER CYMRU

Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr sy’n gweithio gyda chost gofal plant. Mae’r cynnig yn darparu 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth.  Mae hyn yn cynnwys o leiaf 10 awr yr wythnos o addysg Cyfnod Sylfaen Meithrin, gyda hyd at 30 awr yr wythnos o oriau gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ychwanegu ato. 

  • Mae plant tair a phedair oed yn gymwys amdano yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed tan iddyn nhw fynd i addysg amser llawn (y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed fel arfer).
  • Er mwyn elwa ar y cynnig, rhaid i’r ddau riant neu ofalwr (neu’r unig riant neu ofalwr mewn teulu un rhiant) ennill yr hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol, yn dibynnu ar oedran, ac ennill o dan £100,000 y person y flwyddyn.
  • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

CYFNOD SYLFAEN MEITHRIN

Mae mynediad i addysg feithrin i blant 3 a 4 oed yng Nghymru yn rhad ac am ddim.

  • Mae hawl gan eich plentyn i gael o leiaf 10 awr yr wythnos o Gyfnod Sylfaen meithrin a ariennir (addysg blynyddoedd cynnar)
  • Gall hon fod mewn lleoliad (a all fod yn feithrinfa, grwp chwarae a ariennir neu warchodydd plant) a gymeradwyir gan eich awdurdod lleol.
  • Byddai eich plentyn yn dechrau Cyfnod Sylfaen meithrin o’r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (gwefan eich awdurdod lleol).

Os ydych yn hyfforddi neu’n chwilio am waith, efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant drwy’r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PACE).

Os nad ydych mewn swydd, addysg na hyfforddiant, gallai help fod ar gael drwy’r gwasanaeth Cymunedau am Waith.

DECHRAU’N DEG

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed mewn rhannau difreintiedig o Gymru.

Mae’r cymorth yn cynnwys:

  • gofal plant rhan-amser i blant 2 i 3 oed
  • gwell gwasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd
  • rhaglenni magu plant
  • cymorth i blant i ddysgu siarad a chyfathrebu
  • Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybod a ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg a pha gymorth a allai fod ar gael.

GOFAL PLANT SY’N RHYDD O DRETH

Ar gyfer teuluoedd yn y DU sy’n gweithio, gan gynnwys yr hunangyflogedig, ac sydd â phlant 0-11 oed (neu 0-16 oed os oes gan y plentyn anabledd).

  • Mae’n rhaid i chi, ac unrhyw bartner, fod dros 16 oed, ac mae’n rhaid i’r ddau ohonoch ddisgwyl ennill (ar gyfartaledd) o leiaf £142 yr wythnos (sy’n gyfwerth i 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Isafswm Cyflog Byw), gan gynnwys os ydych yn gweithio fel prentis. Ni allwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych chi, neu’ch partner, y naill fel y llall yn disgwyl ennill £100,000 neu fwy yn unigol.
  • Am bob £8 y byddwch yn ei thalu i gyfrif ar-lein, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2, hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn - hyd at £500 bob tri mis. Os oes gennych blentyn ag anabledd, gallwch gael hyd at £4,000 y plentyn - mae hynny hyd at £1,000 bob tri mis.
  • Er enghraifft, os yw’ch costau gofal plant yn £750 y mis, byddech yn talu £600 i mewn i’ch cyfrif gofal plant a byddai’r llywodraeth yn talu £150. Byddai hyn yn gyfystyr â chynilion blynyddol o £1,800 y plentyn.
  • Os ydych chi, neu’ch partner, ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, neu os na allwch weithio oherwydd bod gennych anabledd neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu, gallech fod yn gymwys o hyd.
  • Gallwch ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth drwy’r flwyddyn gyfan ar gyfer gofal plant sydd wedi’i reoleiddio, megis:
    • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis
    • clybiau cyn ac ar ôl yr ysgol a chlybiau gwyliau
  • Gallwch ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar yr un pryd â’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru, sy’n darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, cyn belled â’u bod yn cael eu defnyddio i dalu gwahanol gostau. Ni allwch ei ddefnyddio gyda:
    • Credyd Cynhwysol
    • Credydau Treth
    • Talebau Gofal Plant (ar gau i ymgeiswr newydd)

Gwneud cais nawr

CREDYDAU TRETH AR GYFER GOFAL PLANT

Bydd hyn ar gael i rieni sy’n gweithio yn y DU, sydd â phlant o dan 16 oed (neu o dan 17, os oes ganddynt anabledd).

  • Yn cwmpasu 70% o gostau gofal plant, hyd at uchafswm
  • Os na allwch wneud hawliad newydd am Gredydau Treth, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. Mae Credyd Cynhwysol yn disodli nifer o fudd-daliadau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys credydau treth. Os ydych eisoes yn cael credydau treth, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nawr.
  • Ers 1 Chwefror 2019, mae credydau treth ar gau i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud ceisiadau newydd.
  • Os ydych eisoes yn gwsmer credydau treth, gallwch hawlio’n ôl hyd at 70% o’ch costau gofal plant cymwys ar gyfer plant o dan 16 oed (neu o dan 17 oed ar gyfer plant ag anabledd).
  • Yn dibynnu ar eich incwm, gallech gael hyd at £122.50 yr wythnos ar gyfer un plentyn neu £210 ar gyfer dau blentyn neu fwy.
  • Gallwch ddefnyddio credydau treth ar gyfer gofal plant cofrestredig neu gymeradwy i helpu i dalu am:
    • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis
    • clybiau ar ôl yr ysgol a chynlluniau chwarae
    • ysgolion
    • gweithwyr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig
  • Ni allwch hawlio credydau treth ar yr un pryd â:
    • Credyd Cynhwysol
    • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

CREDYD CYNHWYSOL AR GYFER GOFAL PLANT

Ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio, sydd â phlant o dan 17 oed, ac sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

  • Mae’n rhaid i chi, ac unrhyw bartner, fod yn gweithio, neu fod ar fin dechrau gwaith, ac yn hawlio Credyd Cynhwysol.
  • Gallwch hawlio’n ôl hyd at 85% o’ch costau gofal plant cymwys ar gyfer plant o dan 17 oed. Gallech gael hyd at £646 y mis ar gyfer un plentyn, neu £1,108 ar gyfer dau blentyn neu fwy.
  • Caiff elfen cost gofal plant y Credyd Cynhwysol ei thalu hyd at ddiwedd mis Awst yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 16 oed.
  • Gallwch ei defnyddio i’ch helpu i dalu am:
    • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis cofrestredig
    • clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae
    • ysgolion
    • gweithwyr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig
  • Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol ar yr un pryd â:
    • Credydau Treth
    • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

CYMORTH WRTH ASTUDIO

Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer cymorth gyda gofal plant wrth i chi astudio drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

  • Gallwch gael Grant Gofal Plant (CCG) tuag at gost eich gofal plant os oes gennych blant mewn gofal plant cofrestredig a chymeradwy.
  • Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y grant hwn os ydych chi neu’ch partner yn hawlio:
    • elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith
    • Credyd Cynhwysol
    • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
    • Grantiau gofal plant a ariennir gan y GIG
  • Gwiriwch a ydych yn gymwys yma.

Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch, efallai yr hoffech weld a allwch gael cymorth gyda chostau gofal plant drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Gallwch holi’ch coleg ynghylch hyn.